At sylw Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cymru
Ymateb Mentrau Iaith Cymru i Gyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2016-17
-
Cyflwyniad
-
-
Mae Mentrau Iaith Cymru a’r 23 Menter Iaith leol yn
cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i wireddu’r
weledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu, gan arwain at
gynyddu’r nifer â’r ganran o bobl sy’n
siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio fel rhan o’u bywydau bob
dydd. Gofynnwn i aelodau’r Pwyllgor Cyllid
graffu’n fanwl ar gynigion y Llywodraeth a chodi’r
pwyntiau isod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
2.
Ymateb Mentrau Iaith Cymru i’r Gyllideb Drafft
2016-17
-
Un o brif nodau Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu
fel iaith gymunedol yng Nghymru. Rydym felly yn croesawu’r
ymrwymiad pellach i ddiogelu arian craidd y Mentrau Iaith ond nid
ydym yn deall pam fod cymaint o doriad i gyllideb y Gymraeg yn
gyffredinol a hynny yn wyneb strategaethau niferus ac amryfal
bolisïau sydd angen
adnoddau i’w gwireddu.
-
Ar hyn o bryd diim ond 0.04% o gyllideb y Llywodraeth fydd yn
cael ei wario ar y Gymraeg yn 2016-17.
-
Teimlwn ei fod yn bwysig nodi bod y cyllid a fuddsoddir i
hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol i sefydliadau yn
gyllid sydd yn cael ei fuddsoddi yng Nghymunedau Cymru - cyllid
sydd yn creu ac yn cynnal cannoedd o swyddi, denu arian ychwanegol
o ffynonellau eraill ac yn cael traweffaith gadarnhaol ar yr
economi fel y canfu adroddiad diweddar ar draweffaith economaidd y
Gymraeg a Chanolfan Soar i Ferthyr Tudful.
-
Mae’r cyllid a ddyrennir i'r Mentrau gan Lywodraeth
Cymru wedi eu galluogi i ddenu arian o ffynonellau eraill a chreu
incwm preifat sy’n rhoi dros £3 am bob £1 sydd yn
cael ei dderbyn gan y Llywodraeth. Mae’r arian ychwanegol, yn
ogystal â chyfrannu’n uniongyrchol at economi Cymru, yn
arwain at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg ar hyd a lled
Cymru.
-
Mae’r toriad arfaethedig o £1,685,000 i’r
Gymraeg yn y gymuned, sef 19.5% o ostyngiad o’i gymharu
â llynedd, yn un o’r
toriadau mwyaf i unrhyw gyllideb o ran canran.
-
Mae cyllideb y Gymraeg yn y gymuned yn cyfateb i wariant o 4
ceiniog yr wythnos ar gyfer pob person sydd yn byw yng
Nghymru. Nid ydym yn grediniol
bod hyn yn ddigon o fuddsoddiad i sicrhau twf yn nefnydd y Gymraeg
a gwireddu strategaethau uchelgeisiol y Llywodraeth i feithrin
dwyieithrwydd fel norm yng Nghymru. Dengys cyfrifiad 2011, nad oes
amser i laesu dwylo wrth weithredu er budd y Gymraeg gan bod
niferoedd a’r chanrannau sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn
parhau i ostwng. Ni fydd modd gweithredu ar a chyflawni hynny hyd
oni cheir adnoddau digonol.
-
Mae buddsoddiad yn y Gymraeg yn fuddsoddiad tymor hir.
Safbwynt a rennir gan gynllunwyr iaith ac academyddion dros y
byd. Ochr yn ochr
â’r buddsoddiad tymor hir hwn mae’n rhaid
cynllunio strategol dros y tymor hir er mwyn gallu gwireddu llawn
potensial prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg.
-
Rydym o’r farn bod angen diwygio’r ffordd y
dyrennir cyllid i gyrff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, gan
fod y system bresennol yn ei wneud yn gynyddol anos i
gynllunio’n strategol tuag at Gymru wirioneddol ddwyieithog.
Mae’r toriadau arfaethedig yn arwydd o ddiffyg cynllunio
hirdymor ar gyfer y Gymraeg ac yn adlewyrchiad o’r ffordd y
mae sefydliadau yn cael eu gorfodi i weithio, sef cynllunio dros y
tymor byr ac ar adnoddau prin. Nid yw gweithredu yn y modd hwn yn
mynd i olygu y bydd y Gymraeg yn ffynnu yn y dyfodol.
-
Nid ydym yn credu bod digon o adnoddau yn cael eu neilltuo ar
gyfer gwireddu nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y
Gymraeg. Mae agwedd Llywodraeth Cymru yn galonogol iawn tuag at y
Gymraeg, ond er mwyn gwireddu’r strategaethau, deddfau a
pholisïau sydd yn trafod
y Gymraeg, mae angen sicrhau adnoddau digonol er mwyn cyrraedd
nodau’r strategaeth.
-
Teimlwn yn gryf fod angen inni anelu tuag at bennu cyllid
penodol o 1% o gyllideb y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg, ffigwr
tebyg i’r hyn a fuddsoddir yn yr iaith Fasgeg yng Nghymuned
Awtomaidd Gwlad y Basg, ardal sydd yn debyg o ran demograffeg iaith
a phoblogaeth i Gymru, ond ardal sydd wedi profi cynnydd cyson yn
nifer a chanran siaradwyr dros y degawdau diwethaf. Nid oes rhaid pennu
cyllideb y Gymraeg gan un adran yn unig, yn anorfod mae dyletswydd
ar holl adrannau’r llywodraeth i gynllunio traws-adrannol; a
thraws-bortffolio dros y Gymraeg.
-
Mae Bil Llesiant y Dyfodol yn cynnwys y Gymraeg fel un
o’r saith prif flaenoriaeth, gyda’r nod o weld
‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn
ffynnu’. Mae hyn yn cael ei fesur gyda’r ‘Pobl
sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau
beunyddiol’ ac mae angen cyllid digonol i’w
wireddu.
-
Mae buddsoddi yn y Gymraeg - er mwyn cryfhau ei seiliau,
gwella sgiliau pobl, cynyddu defnydd a chydnabyddiaeth o sgiliau
iaith yn enghraifft berffaith o’r cysyniad o wariant ataliol.
Os nad ydym yn buddsoddi yn y Gymraeg, ar draws sectorau ac ar
draws meysydd portffolio nawr, bydd yn anodd os nad yn amhosib
adfer y Gymraeg yn y sfferau cymunedol a chymdeithasol yn y
dyfodol, ac bydd yn costio llawer mwy i geisio gwneud
hynny.
-
Credwn fod modd gweld buddsoddi yn y Gymraeg fel gyrrwr
economaidd. Yn hanesyddol cafwyd diffyg mewn gwasanaethau hanfodol
yn y Gymraeg oherwydd ei statws. Mae modd defnyddio’r gwacter
hwn i greu gwasanaethau a swyddi newydd.
-
Fel cenedl, nid ydym mewn sefyllfa i aros am ddyddiau
economaidd gwell i fuddsoddi yn y Gymraeg. Rydym yn cydnabod yn
llawn ein bod yn wynebu hinsawdd economaidd anodd ond ar yr un pryd
mae rhaid inni gydnabod bod yr iaith Gymraeg yn wynebu heriau
difrifol wrth fodoli ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf
dylanwadol yn y byd. Y mwyaf mae’r Gymraeg yn colli tir fel
iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc, y mwyaf o
fuddsoddiad fydd angen yn y pendraw i adfer y sefyllfa, ac fe
fyddai’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill
yn y dyfodol.
-
Mae’n fater o bryder gennym y bydd effaith negyddol ar y
Gymraeg yn sgil y gyllideb hon.